Beth yw Dysgu yn y Gwaith?
Fel gweithiwr gallwch ddysgu wrth ennill cyflog a meithrin sgiliau ymarferol yn y gweithle. Wrth gwrs, efallai bod gennych flynyddoedd o brofiad a sgiliau eisoes a fydd yn eich helpu i ennill eich cymhwyster.
E-bortffolio – Y Buddion i Ddysgwyr
Mae gan y system e-bortffolio lawer o fanteision i ddysgwyr. Mae’r dysgwyr yn cael astudio pryd a ble y dymunant. Does dim portffolios papur trwchus i’w trin a’u cadw. Mae’r e-bortffolio yn cael ei gadw ar-lein ac ar gael drwy borwr rhyngrwyd. Mae’r system yn hawdd ei defnyddio ac ychydig o hyfforddiant sydd ei angen. Bydd dysgwyr yn gallu gweld eu cynnydd unrhyw bryd, a byddant yn gallu defnyddio deunyddiau ac adnoddau’r cwrs ar unwaith. Mae’n hawdd uwchlwytho tystiolaeth i’ch e-bortffolio a chysylltu â’ch asesydd. Mae’n bosibl rhyngweithio, mewn ffordd wedi ei gymedroli, â dysgwyr eraill ar y cwrs.
Gallwch weld eich portffolio chi eich hun yma (add link here to Learning Assistant)
Y Broses Adolygu
- Yn ystod eich Rhaglen Ddysgu, bydd eich asesydd yn ymweld â chi i gwblhau Adolygiad Cynnydd. Bydd yr asesydd yn siarad â chi a’ch cyflogwr ac yn cofnodi’r canlynol:
- Eich cynnydd gyda phob agwedd o’ch cymhwyster;
- Unrhyw rwystrau i’ch cynnydd;
- Unrhyw broblem gyda’ch cyflogaeth neu gwrs coleg;
- Eich ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth;
- Eich lles cyffredinol;
- Unrhyw beth rydych chi’n ei gyflawni y tu allan i’ch Rhaglen Ddysgu (fel llwyddo yn eich prawf gyrru, ennill gwobr y diwydiant, ennill cystadleuaeth, ac ati);
- Blaengynllun o’ch Rhaglen Ddysgu gyda thargedau ar gyfer y 6 wythnos nesaf;
- Eich cynnydd gyda gwella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd;
- Sicrhau eich bod yn gwybod am y Strategaeth PREVENT, Dinasyddiaeth Weithgar a Gwerthoedd Prydeinig
- Annog datblygu eich Cymraeg
Cyfrinachedd Dysgwyr
1
Bydd Coleg Cambria yn sicrhau bod hawliau dysgwyr i gyfrinachedd gwybodaeth bersonol yn cael eu diogelu. Credwn y dylai fod gan bob hawl i ddisgwyl y bydd gwybodaeth bersonol sy’n cael ei chadw amdanynt yn cael ei thrin yn gyfrinachol a’i pharchu.
2
Lle bo dysgwyr yn cael eu hannog i ddatgelu gwybodaeth bersonol, dylid gwneud hynny gyda’u cydsyniad gwybodus. Mae ganddynt hawl i ddisgwyl cael gwybodaeth glir a thryloyw, a chyngor am oblygiadau datgelu ac am eu rhyddid i gyrchu ac i newid yr hyn sy’n cadw fel cofnod.
3
Mae Coleg Cambria yn ymwybodol bod yr hyn a ganfyddir yn gyfrinachol yn amrywio o ddysgwr i ddysgwr ac o amgylchiadau i amgylchiadau.
4
Bydd y coleg yn anfon rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi at Lywodraeth Cymru (LlC). Bydd eich cofnod yn cael ei ychwanegu at gronfa ddata a fydd yn cael ei defnyddio i drosglwyddo gwybodaeth, ar ffurf anhysbys, i Lywodraeth Cymru, adrannau’r llywodraeth ganolog ac asiantaethau sydd angen y wybodaeth i gyflawni eu swyddogaethau o dan y Deddfau Addysg.